Sgyrsiau, teithiau, llyfrau, cerddoriaeth, hanes, celf, ffilm, yr amgylchedd, yr awyr agored……a mwy
Cafodd Gŵyl Arall ei sefydlu dros ddegawd yn ôl yng Nghaernarfon: bob mis Gorffennaf mae’n cynnig amrywiaeth hwyliog o weithgareddau o gwmpas y dre. Erbyn hyn mae Gŵyl Ddewi Arall wedi hen ennill ei phlwy hefyd, ac yn cynnig yr un math o gymysgedd bywiog o bethau dros benwythnos ym mis Mawrth. Eleni, ‘dan ni’n croesawu Gŵyl Cynhaeaf Arall at y teulu. Mae ‘na rywbeth i bawb yn yr ŵyl newydd hon sy’n canolbwyntio’n fwy ar hanes tirweddau, rhyfeddodau natur, byw’n gynaliadwy, creadigrwydd amgylcheddol a meddylgarwch.
Gŵyl Ddewi Arall – 27 Chwefror – 1af o Fawrth 2026
Gŵyl Arall 2026 – 09 – 12fed o Orffennaf 2026