Gŵyl Ddewi Arall

28 Chwefror–2 Mawrth 2025

Sgyrsiau, teithiau, llyfrau, cerddoriaeth, hanes, celf, ffilm, yr amgylchedd, yr awyr agored……a mwy

Cafodd Gŵyl Arall ei sefydlu dros ddegawd yn ôl yng Nghaernarfon: bob mis Gorffennaf mae’n cynnig amrywiaeth hwyliog o weithgareddau o gwmpas y dre. Erbyn hyn mae Gŵyl Ddewi Arall wedi hen ennill ei phlwy hefyd, ac yn cynnig yr un math o gymysgedd bywiog o bethau dros benwythnos ym mis Mawrth. Eleni, ‘dan ni’n croesawu Gŵyl Cynhaeaf Arall at y teulu. Mae ‘na rywbeth i bawb yn yr ŵyl newydd hon sy’n canolbwyntio’n fwy ar hanes tirweddau, rhyfeddodau natur, byw’n gynaliadwy, creadigrwydd amgylcheddol a meddylgarwch.

Gŵyl Ddewi Arall – 28 Chwefror – 2 Mawrth 2025

Gŵyl Arall  – 11–13 Gorffennaf 2025

Gŵyl Arall

Be sy mlaen?

Tocynnau a gwybodaeth ar gyfer ein holl ddigwyddiadau.

Ymuna â’r tîm

Gwirfoddoli

Eisiau mynediad am ddim i rai o ddigwyddiadau Gŵyl Arall? Dyma dy gyfle i fod yn rhan o dîm penwythnos Gŵyl Arall.

Pres

Rhowch yn hael

Cyfrannu

Bydd eich cyfraniad yn mynd tuag at artistiaid yr ŵyl eleni ac yn ein galluogi i baratoi ar gyfer yr ŵyl nesaf.