
Beirdd yn yr Ardd – Non Prys Ifans
Sul, Gorffennaf 12
4:30pm, Gerddi’r Emporiwm, £6
Ymunwch â ni yng Ngerddi’r Emporiwm ar gyfer sgwrs agos atoch rhwng dwy ffrind, wrth i Angharad Prys holi Non Prys Ifans am ei phamffled o gerddi a gyhoeddwyd y llynedd, Crocodeil yn Berwi Tegell.
Trawma a roddodd fywyd i’r cerddi sydd yn y casgliad hwn, ond crebwyll a chrefft bardd a’u gwnaeth yn ddarnau i syfrdanu darllenwyr. Fel hyrddiau o alar, mae’r cerddi hyn hefyd bron yn afreolus eu hamrywiaeth – o fyfyrdodau tameidiog i lif ymwybod rhyddieithol. Ac eto, er mor amrwd, nid casgliad uncyfeiriad sy’n dadbacio ac yn dadlwytho yn unig mo hwn, gan fod yma fardd all weld fflachiadau o harddwch – ac edrych am ymlaen – hyd yn oed o lygad poen annirnad.
Pris y digwyddiad yn cynnwys panad a chacen.
Mae nifer cyfyngedig o docynnau i’r digwyddiad hwn ar gael o siop Palas Print neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.