
The Ballymurphy Precedent (Pris llawn)
Cafodd THE BALLYMURPHY PRECEDENT ei dangos mewn dros 50 o sinemau drwy Brydain ag Iwerddon a derbyniodd enwebiadau ar gyfer gwobrau RTS, BROADCAST, a BAFTA. Mae’r ffilm yn dweud hanes dirdynnol y lladfa ar stad dai Ballymurphy yng Ngorllewin Belfast yn 1971 gan y Parachute Regiment. Rai misoedd wedyn bu i’r un milwyr ladd 14 ar ‘Bloody Sunday’ yn Derry. Yn 2021 cyhoeddwyd adroddiad gan y Crwner yn cadarnhau nad oedd unrhyw gyfiawnhad dros y marwolaethau. Roedd y Crwner hefyd yn cadarnhau bod yr haeriadau yn y ffilm yn gywir. Mae’r ffilm yn cynnwys ail-greu manwl o’r saethu ag yn dilyn hanes brwydr y teuluoedd am gyfiawnder.
Tocynnau
£7.50 pris llawn // £5.00 i’r ddi gyflog
gwylarall.com
neu ar y drws
Sesiwn holi ac ateb wedi’r ffilm gyda
Cynhyrchydd y ffilm – Gwion Owain
Wedi’i drefnu gan Ffilm o Chwith
Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.