
Tocyn Pnawn Dydd Sadwrn: Suddwch i fyd afalau, hadau, mwynau a mwy…
Sadwrn, Hydref 10
1:30pm, Llety Arall, £10
13:30 – 17:30
Prynhawn hwyliog o sesiynau a fydd yn trafod Bancio Hadau Cymru, Iaith yr Afon a’r Llynnoedd, Trysorau Tanddaearol, Oes o Atgofion Natur Cofi, Straeon Ffrwythau Gwynedd (gyda chyfle i flasu ac adnabod afalau – dewch â’ch ffrwythau draw os am help i’w hadnabod)
gydag Ellyn Baker, Ioan Rhys Lord, Kelvin Jones, Gerallt Pennant, Carwyn Graves
Sesiynau Cymraeg
- Nodwch fod gwasanaeth adnabod afalau yn rhan o sesiwn Carwyn Graves. Dylai pobl ddod â 3 o ffrwythau i’w hadnabod o bob coeden nad ydyn nhw’n siwr beth yw hi. Cadwch y ffrwythau yn yr oergell o flaen llaw i’w cadw rhag prydru (oherwydd y gwres eleni). Dylech ddod â 3 ffrwyth sydd mor gynrychioladol â phosib o ffrwythau’r goeden honno – nid y rhai cochaf / melynaf/ gwyrddaf ar y goeden ond y rhai sydd fwya tebyg i be mae’r goeden yn tueddu cynhyrchu.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.