Gŵyl Arall

09 – 12 Gorffennaf 2026

The Old Oak

Gwener, Ionawr 16
7:00pm, , £7.50

Mae THE OLD OAK yn stori pentref yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, lle caeodd y pwll glo, ac mae pobl yn teimlo bod y system wedi eu anghofio. Mae llawer o bobl ifanc wedi gadael ac mae’r hyn a fu unwaith yn gymuned falch a ffyniannus yn brwydro i gadw hen werthoedd yn fyw. Ond mae dicter a diffyg gobaith cynyddol. Mae tai’n rhad ac ar gael. Mae hyn yn ei wneud yn lleoliad delfrydol i’r ffoaduriaid o Syria sydd wedi cael eu derbyn gan Brydain yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Sut fydd y Syriaid yn cael eu derbyn? A beth fydd dyfodol y dafarn olaf yn y pentref, The Old Oak?

Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.