Gŵyl Arall

09 – 12 Gorffennaf 2026

Siawns am Stori?!

Sul, Gorffennaf 12
11:30am, , £7

Mae gan bawb ei stori yn does? Ond, yng nghanol prysurdeb bywyd, pa mor aml mae rhywun yn cael cyfle i fynd tu hwnt i’r ‘helo su’ mai?’ i glywed straeon difyr y bobl sy’n byw o’n cwmpas ni?

Dyma gyfle i eistedd nôl i glywed ymateb pedwar aelod o’r gymuned i’r cwestiwn ‘Y lle sy’n golygu rhywbeth i ti’, lle byddwn ni’n gofyn ‘Siawns am Stori?’

Am fore hamddenol, gonest a chroesawgar, dewch draw am damaid bach o fwyd, paned yn eich llaw ac i ymgolli am ychydig yn straeon pobol sy’n gwreiddio’n cymunedau ni. O’r doniol i’r dwys i’r diymhongar, pwy a wyr pa stori gawn ni i’n diddanu?

Nifer cyfynedig o docynnau fydd ar gael, felly bachwch eich tocyn i sicrhau eich lle!

Mae nifer cyfyngedig o docynnau i’r digwyddiad hwn ar gael o siop Palas Print neu wrth y drws.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.