
Rhian Cadwaladr – Tân ar Hen Aelwyd
Am ddim
Bethan Gwanas sydd yn holi Rhian Cadwaladr am ei nofel newydd Tân ar Hen Aelwyd.
Un cwpwl… dwy stori garu
Pan gerddodd Gari i mewn i siop lyfrau yng Nghaerdydd, doedd o ddim yn disgwyl gweld y ferch o Lanberis a ddiflannodd o’i fywyd heb air o eglurhad dros ddeugain mlynedd ynghynt. Doedd Bet, chwaith, ddim yn disgwyl dod wyneb yn wyneb â’r dyn roedd hi wedi ceisio mor galed i anghofio amdano. Ond mae ffawd yn beth rhyfedd…
Nofel am garwriaeth bore oes, ac am fentro agor calon eto ar ôl pasio canol oed.
Bydd Rhian yn cael ei holi gan Bethan Gwanas am y nofel, am dyfu i fyny yn y 1980au ac am Lanberis ddoe a heddiw (ymysg pethau eraill!)
Mae Rhian yn awdur pum nofel i oedolion: Fi Sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd, Plethu, Dathlu! a Gwaddol, nifer o lyfrau i blant, nofel i ddysgwyr a thri llyfr coginio. Yn frodor o Ddyffryn Peris, pan nad yw’n ysgrifennu, mi ddewch o hyd iddi yn y gegin neu’n crwydro’r bryniau efo’i chamera.
Digwyddiad am ddim. Dewch yn gynnar i sicrhau eich sedd.
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gwerthfawrogwn gyfraniad.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.