Gŵyl Arall

09 – 12 Gorffennaf 2026

Hyll, Alffa, Ella Wedyn

Gwener, Gorffennaf 10

Mi rydym ni wrth ein bodd cael croesawu arwyr slacyr roc Cymru Hyll i’r ŵyl am y tro cyntaf, yn ôl ar y llwyfan ar ôl siab bach, bydd y set yn llawn hen ffefrynnau ac ambell beth newydd.

Mae Alffa yn hen ffrindiau i Gŵyl Arall a ‘dani methu disgwyl i glywed ei anthemau roc trwm unwaith eto.

Un o bleserau mwyaf Gŵyl Arall yw cael bandiau newydd, lleol yn camu i’r llwyfan, dani’n gyffrous iawn i weld Ella Wedyn yn perfformio yn yr ŵyl.

A hynny i gyd mewn lleoliad newydd i ni – Clwb Cefnogwyr Pel-droed Caernarfon! Mae’r clwb yn mynd drwy cyfnod cyffrous ar hyn o bryd a dani’n falch iawn i fynd a Gŵyl Arall i ganol y cynnwrf – diwrnod yn unig ar ôl y gêm Ewropeaidd cyntaf ar Yr Ofal!

Sawl rheswm i ddathlu – welwn ni chi yna!

Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.