
Cerddi Canol Pnawn
Am ddim
Mae Cerddi Canol Pnawn yn cynnig llwyfan agored i farddoniaeth o bob math trwy gyfrwng y Gymraeg mewn gofodau croesawgar, di-alcohol yng nghymunedau gogledd orllewin Cymru.
Ein bardd gwadd y tro hwn ydi’r sgwennwr, yr hwylusydd a’r perfformiwr Megan Lloyd (@gwaithpapur) ac mi fydd hi’n ymuno gyda ni ar bnawn Sadwrn 11 Gorffennaf am 14:30 yng Nghaffi Maes, Caernarfon. Mae mynediad am ddim gyda chyfle i gyfrannu, os medrwch chi, swm o’ch dewis chi tuag at ffi i’r bardd gwadd a chostau cynnal digwyddiadau o’r fath yn y dyfodol. Mae’r Cerddi Canol Pnawn yma yn rhan o arlwy Gŵyl Arall 2026.
Os yda chi awydd darllen cerdd neu ddwy yn y mic agored; does yna ddim thema benodol ac mi gewch chi roi eich enw lawr ar y diwrnod – croeso i bawb!
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gwerthfawrogwn gyfraniad.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.