
Wayne Howard – Bywyd a Gwaith Dyn Positif
Sadwrn, Gorffennaf 12
11:30am, Llety Arall, £6
Jon Gower fydd yn holi Wanye Howard am ei gyfrol diweddar Hunangofiant Dyn Positif, Bywyd a Gwaith Wayne Howard.
O’i fagwraeth yn Tiger Bay, i weithio yn y diwydiant dur, o ddysgu Cymraeg a dod yn athro Cymraeg, mae’n ysbrydoliaeth i nifer yn ei gynefin, ac yn ddiweddar daeth yn seren y rhaglenni teledu ‘Cymru, Dad a Fi’ a ‘Teulu, Dad a Fi’ gyda’i fab Connagh.
Dewch i gyfarfod Wayne ac i glywed mwy o’i hanes difyr.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.