
Trochfa Sain – Leisa Mererid
Sul, Gorffennaf 13
7:00pm, Llety Arall, £15
Ar ôl prysurdeb y penwythnos, be well ‘na trochfa sain, neu gong bath i’ch helpu chi ymlacio? Sdim angen gwisgo dillad nofio na diosg eich dillad ar gyfer y ‘bath’ yma, dim ond creu nyth clyd a chynnes i chi fedru ymlacio ynddo felly dewch a mat trwchus , blancedi a chlustog gyda chi – unrhyw beth ‘de chi ei angen i fod yn gyfforddus i orwedd ar lawr. Yna’r cwbl fydd angen i chi ei wneud fydd gadael i synau a dirgryniadau’r gongs wneud eu gwaith! Mae sesiwn gong yn wych ar gyfer cylchrediad, mae’n helpu i leddfu straen corfforol, meddyliol ac emosiynol ac mae’n gyfle i ni ymlacio’n ddwfn a chymryd saib oddi wrth brysurdeb y byd!
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.