
Simon Chandler – Hiraeth Neifion
Simon Chandler fydd yn trafod ei nofel diweddaraf Hiraeth Neifion hefo Malachy Edwwards. Nofel am gerddorion jazz yn Berlin sy’n byw yng nghysgod y Natsïaid a bygythiad yr Ail Ryfel Byd. Mae Neifion yn rheolwr ar fand o gerddorion rhyngwladol – yn eu mysg mae Cymro, Americanwyr Affricanaidd ac Almaenes a oedd yn arfer bod yn ffrindiau ag un o’r swyddogion Natsïaidd lleol sy’n ceisio’i orau i ‘lanhau’ Berlin…
Mae Simon Chandler yn hanu o Lundain, ond syrthiodd mewn cariad â Chymru, y Gymraeg a’r gynghanedd ar ôl iddo ymweld â cheudyllau Llechwedd ger Blaenau Ffestiniog. Bellach, mae’n golofnydd yng nghylchgrawn Barddas ac mae ganddo englynion mewn dwy flodeugerdd ddwyieithog. Mae’n gyfreithiwr yn ei waith bob dydd, ac mae wedi llunio cynllun cyfreithiol, Diogelwn, ar gyfer Cymdeithas yr Iaith i warchod enwau Cymraeg ar dai a thir. Yn ogystal, mae wedi rhyddhau dau albwm o ganeuon Cymraeg, ac mae’n rhedeg Grŵp Sgwrs a Pheint Manceinion yn ei ddinas fabwysiedig. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, yn 2023.
Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.