
Prosser Rhys yng Nghaernarfon: Taith gerdded yng nghwmni Iestyn Tyne
Sadwrn, Gorffennaf 12
2:30pm, Palas Print, £6
Ychydig yn llai na dwy flynedd a dreuliodd Prosser Rhys yng Nghaernarfon, ond roeddent yn ddwy flynedd ffurfiannol ac arwyddocaol fyddai’n effeithio arno weddill ei oes. I gyd-fynd â chyhoeddi Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni, cyfrol ffeithiol-greadigol ddadlennol sy’n mynd ar drywydd ‘Atgof’, pryddest goronog chwyldroadol Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl 1924, bydd Iestyn Tyne yn arwain taith gerdded i rai o’r lleoliadau o amgylch y dre a thros yr aber sy’n rhan o hanes Prosser a’r bobl agosaf ato, gan orffen yn Gerddi’r Emporiwm efo darlleniadau a chyfle i holi’r awdur.
Ymgynull tu allan i Palas Print
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.