
Nofelau Newydd Cymraeg – Dau a Penllechwedd
Sadwrn, Gorffennaf 12
3:00pm, Palas Print, £6
Dwy nofel gan ddwy awdures a chefndir gwledig i’r ddwy – ond dyna lle daw’r tebygrwydd i ben.
Nofel dawel am berthynas brawd a chwaer oedrannus ydi Dau, nofel dditectif droellog ei phlot ydi Penllechwedd. Nofel gyntaf Bethan Nantcyll ydi Dau, ond ailafael yn ei gyrfa fel nofelydd a wna Rhiannon Thomas yn Penllechwedd …
Dowch i gael gwybod mwy – am ddwy nofel dra gwahanol a hefyd am y ddwy a’u sgrifennodd.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.