
Llyfr Sgrap Macs Sion – Mari Lövgreen
Sul, Gorffennaf 13
4:00pm, Oriel CARN, £5
Dewch a’r plant draw am sesiwn hwyliog yng nghwmni Mari Lövgreen, awdur y llyfr newydd i blant, Llyfr Sgrap Macs Siôn. Mae Llyfr Sgrap Macs Siôn yn llawn cyfrinachau a breuddwydion… rhestrau a phranciau… dŵdls a jôcs… snot a phw! Os ydi’ch plant chi yn hoffi Pokemon a Roblox ac yn casáu dawnsio gwerin… maen nhw yn siŵr o fwynhau’r sesiwn hon! Sesiwn anffurfiol, croeso i bawb.
Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.