Gŵyl Arall

09 – 12 Gorffennaf 2026

Jon Gower a Elinor Gwynn – ‘Birdland’

Sadwrn, Gorffennaf 12
10:00am, , £6

Hanner can mlynedd ar ôl iddo ddechrau gwylio adar, mae’r newyddiadurwr a’r adarwr hir oes Jon Gower yn archwilio ein cysylltiad agos â bywyd yr adar o’n cwmpas. O gân symffonig y dryw i glepian pig y pâl ac o ymfudiadau epig i furmur y drudwy ar fachlud haul, mae adar yn wyrthiau cyffredin.

Elinor Gwynn fydd yn ei holi am ei gyfrol ddiweddaraf.

Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.