Gŵyl Arall

10–13 Gorffennaf 2025

Gweithdy barddoniaeth

Sul, Mawrth 2
2:00pm, , £10

Gweithdy barddoniaeth 2 awr Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd gyda Bardd Tref Caernarfon, Iestyn Tyne.

Mae croeso i bawb – y rheiny sydd erioed wedi ysgrifennu darn o farddoniaeth o’r blaen ond sy’n awyddus i gael cyflwyniad syml i sut i fwrw ati – i’r rheiny ohonoch sydd wedi hen arfer ‘sgwennu cerddi. Cewch flas ar sut beth yw gweithdy ‘sgwennu, rhoi geiriau ar bapur a gadael â llond sach o syniadau i’w roi ar waith

£10 y pen

Addas i unrhyw un dros 16

Nifer cyfyngedig o lefydd.

Rhaid cofrestru o flaen llaw. Gallwch wneud hynny trwy gysylltu â Chanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd: tynewydd@llenyddiaethcymru.org / 01766 522 811

 

Mae Iestyn Tyne yn fardd ac awdur, ac ef oedd un o sefydlwyr y cylchgrawn llenyddol Y Stamp. Mae’n olygydd i gyhoeddiadau annibynnol Y Stamp, ac
wedi goruchwylio a chymell cyhoeddiadau sawl awdur newydd yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddaf – gan roi llwyfan i leisiau newydd, ymylol yn
aml. Iestyn yw trefnydd Cerddi Canol P’nawn, digwyddiad barddol teithiol sy’n rhoi llwyfan i awduron drwy wahoddiad a drwy gynnig gofod meic agored.
Gyda Darren Chetty, Grug Muse a Hanan Issa, roedd yn gyd-olygydd Welsh (Plural) y gyfrol o ysgrifau ar ddyfodol Cymru, a chyrhaeddodd ei gasgliad o
farddoniaeth, Stafelloedd Amhenodol, restr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2022. Ar y cyd â Leo Drayton, ef yw awdur Robyn (Y Lolfa, 2021),
nofel i oedolion ifanc yng nghyfres Y Pump, enillydd categori yng ngwobrau Tir na n-Og a Llyfr y Flwyddyn yn 2022. Mae wedi ennill Coron (2016) a Chadair
(2019) Eisteddfod yr Urdd, ac ef bellach yw Meistr Defod Wobrwyo Seremonïau Llenyddol yr Urdd. Mae wedi tiwtora yn Nhŷ Newydd ac ef yw Bardd cyntaf tref Caernarfon. Cyhoeddir Y Cyfan a fu Rhyngom Ni, ei gyfrol ffeithiol-greadigol sy’n dilyn llwybrau pryddest enwog Prosser Rhys, ‘Atgof’, gan Wasg y Bwthyn fis Mehefin 2025.

Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.