
Gai Toms – Llechan yn y Gwaed
Sadwrn, Gorffennaf 12
1:30pm, Gerddi’r Emporiwm, £6
Myrddin ap Dafydd fydd yn holi Gai Toms am ei lyfr newydd Llechan yn y Gwaed. Yn y gyfrol mae’r bardd a’r cyfansoddwr o Flaenau Ffestiniog yn olrhain rhai o brofiadau ei fywyd ochr yn ochr â chyflwyno detholiad nodedig o’i ganeuon, eu harwyddocâd iddo yn bersonol, eu cefndir a rhai straeon ysgafn ynglŷn â’u perfformio.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.