
Dros Gymru’n Gwlad
Sul, Gorffennaf 13
1:00pm, Llety Arall, £6
Sgwrs rhwng Arwel Vittle a Gwen Angharad Gruffudd yn trafod eu cyfrol newydd ar sefydlu Plaid Cymru ganrif union yn ôl. Golwg ar y dylanwadau a fu’n sbardun i griw o bobl ifanc fynd ati i sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru, a’r camau a arweiniodd at gyfarfod cyntaf y blaid ym Mhwllheli ddechrau Awst 1925. Gosodir sefydlu’r Blaid yng nghyd-destun cyffro gwleidyddol y 1920au, a dangosir mai gwrthryfel oedd prif symbyliad y bobl ifanc hyn – gwrthryfel yn erbyn Prydeindod ac yn erbyn yr hen ffordd o wneud pethau yng Nghymru.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.