Gŵyl Arall

09 – 12 Gorffennaf 2026

Buddug, Chwaer Fawr, Martha Elen

Sadwrn, Rhagfyr 27
7:30pm, , £10

Rydym ni’n dod a rhai o’n hoff fandiau o’r flwyddyn i Neuadd y Farchnad i gael parti mawr rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.

Bydd Buddug, Chwaer Fawr a Martha Elen yn perfformio.

Yn Gŵyl Arall 2024 fe berfformiodd Buddug ei gig gyntaf gyda band yn Yr Hen Lys. 18 mis, albym wych a sawl gig yn ddiweddarach mae’n nhw yn dod i headlinio Neuadd y Farchnad am y tro cyntaf. Fydd hon yn gig i’w gofio gyda un o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd.

Mae canmol mawr wedi bod i albym Chwaer Fawr – Diwedd ddaeth allan yn gynharach eleni. Rydym yn edrych ymlaen yn arw i glywed y caneuon yn fyw.

Mae sŵn canu gwlad modern Martha Elen wedi swyno sawl un flwyddyn yma gyda sawl set cofiadwy mewn gŵyliau ar hyd y wlad ac rwan cyfle i’w gweld yn Gaernarfon.

Mynediad i rhai 16 oed ac hyn yn unig.

Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.