
Beirdd yn yr Ardd – Jo Heyde a Llŷr Gwyn Lewis
Sul, Gorffennaf 13
4:00pm, Palas Print, £6
Ymunwch â ni am awr o farddoniaeth fyw yn yr ardd. Bydd Sioned Erin Hughes yn holi’r beirdd, Jo Heyde a Llŷr Gwyn Lewis, am eu cyfrolau diweddaraf, Chwarter Eiliad a Holl Lawenydd Gwyllt. Ceir darlleniadau o’r cerddi gan y beirdd eu hunain rhwng y cwestiynau.
Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.