Trwy’r Tannau
Cyfuniad cyffrous o chwedlau a cherddoriaeth, draddodiadol a gwreiddiol, sy ’n dathlu’r delyn yng Nghymru.
Bydd Sioned Webb a Mair Tomos Ifans – a hanner dwsin o delynnau – yn adrodd hanes Marged Fwyn Ferch Ifan, y ddynes hynod o’r G18fed; yn canu am Dylwyth Teg Cader Idris ac yn dychmygu bod mewn parti efo nhw ar Fynydd Hiraethog. Cewch wybod hefyd pwy oedd Dafydd y Garreg Wen a beth yw’r hanes tywyll am bwll dwfn ar yr afon Teifi?
90 munud (gydag egwyl) hudolus sy’n plethu tannau â llais, nodau â geiriau.
Mae Mair Tomos Ifans yn gyfarwydd a chantores werin adnabyddus sy’n rhannu chwedlau a straeon gwerin o bob cwr o Gymru wedi’i plethu a chaneuon ac alawon traddodiadol.
Mae Sioned Webb wedi perfformio yn helaeth yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol. Mae’n adnabyddus am ganu’r piano a’r delyn deires ac am gyfansoddi a threfnu cerddoriaeth o bob math. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau, yn eu plith, cyfrolau o ganeuon gwerin yn nodedig ‘Hen Garolau Cymru’ a ‘Seiniwn Hosanna’.
Diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru am gefnogi’r cam Ymchwil a Datblygu o’r brosiect yma.
Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.