Gŵyl Ddewi Arall

28 Chwefror–2 Mawrth 2025

Sgwrs Canfas – Clwb Tan y Bont

Sul, Mawrth 3
3:30pm,
Am ddim

Sgwrs Canfas gyda Rhys Mwyn ac eraill ynglyn a prosiect ar y cyd rhwng Galeri a GISDA sy’n cydnabod cyfraniad Clwb Tan y Bont i’r Sin Roc Gymraeg yn yr 70au a’r 80au drwy greu gweithiau Celf.

Mae CANFAS yn un o brosiectau cymunedol Galeri, Caernarfon  sy’n cael ei ariannu ac ei gefnogi gan gynllyn Trawsnewid Trefi Cyngor Gwynedd a Cysylltu a Ffynnu Cyngor y Celfyddydau Cymru.

Mae’n brosiect lle rydym yn cydweithio hefo’r gymuned i drawsnewid gofodau a strydoedd yn Nhre’ Caernarfon drwy ymgorffori gwaith celfyddydol a lliwgar yn y gofodau sy’n adlewyrchu ac yn seiliedig ar hanesion, straeon, a’r hyn sydd yn bwysig i drigolion y dref.

Mae’r sgyrsiau yma’n cael eu harwain gan griwiau o artistiaid ac unigolion creadigol lleol sy’n seilio’r gwaith gweledol ar yr hyn mae nhw’n ei glywed, ac yn ei ddehongli.

Un o’r themau a’r ardaloedd o dan sylw ydy Tan y Bont lle buodd Clwb gerddoriaeth Gymraeg yn ei hanterth yn y 70au a’r 80 gan gyfrannu’n sylweddol i’r Sin yn Nghaernarfon a thu hwnt. Mae criw creadigol GISDA wedi bod yn cyd-weithio gyda artistiaid i greu gwaith gweledol i gynrhychioli cyfraniad y clwb. O dan arweiniad Rhys Mwyn, bydd hon yn sgwrs i glywed am y datblygiadau a’r syniadau ynghlwm a’r prosiect ac yn gyfle i hel straeon ac atgofion am yr hyn oedd yn atseinio o fewn muriau’r Clwb dros y degawdau.

AM DDIM

Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gwerthfawrogwn gyfraniad.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.