
Rhannu’r Hen Fynyddoedd
Sadwrn, Gorffennaf 6
1:30pm, Llety Arall, £6
Dewch i glywed mwy gan Marian Pye(Parc Cenedlaethol Eryri), Roland Evans a Lucy Thomas(Cyngor Gwynedd) am rai o’r cynlluniau mwyaf uchelgeisiol sy’n digwydd ar draws ucheldiroedd Gwynedd ar hyn o bryd. Mae ‘na lu o weithgareddau ar y gweill – o ddatgelu olion archeolegol i greu gwaith celf newydd, o astudio cerrig beddi i fforio bwyd, ac o ganu tanddaearol i gynnal iaith. Rhywbeth at ddant pawb!
Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.