Gŵyl Arall

09 – 12 Gorffennaf 2026

RAFFL, Aled Jones Williams

Sul, Gorffennaf 7
6:00pm, , £6

Mae’n fraint gan Gŵyl Arall gynnwys sesiwn gyda’r awdur a’r dramodydd Aled Jones-Williams. Bydd yn sgwrsio gyda Cefin Roberts, am Raffl a Storiau Eraill (Gwasg Carreg Gwalch), ei gyfrol ddiweddaraf o straeon byrion sydd ar restr fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru. Gyda darlleniadau gan yr actorion Elain Llwyd a Sion Emyr.

 

“Gyda Raffl a Storiau Eraill Mae Aled Jones Williams wedi creu profiad bron fel rollercoaster. Gall y straeon fod yn fyr, ond mae digon i ddal sylw’r darllenydd o’r dechrau i’r diwedd. Rhaid ei ddarllen!” AntEvans, Nation Cymru

 

Diolch i Llyfr y Flwyddyn Cymru, llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru am gefnogi’r digwyddiad hwn

Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.