
Oyate
Gwener, Chwefror 23
7:00pm, Galeri, £6.50
Ffilm o Chwith yn cyflwyno
Yn 2016, trodd y byd ei lygaid at bobl Standing Rock wrth iddynt ffurfio clymblaid o faint digynsail i amddiffyn eu tir a’u dŵr rhag bygythiad Piblinell Mynediad Dakota.
Mae OYATE yn codi lleisiau gweithredwyr brodorol, trefnwyr a gwleidyddion wrth iddynt gynnig eu persbectif ar yr hanes cymhleth hwnnw, cyd-destunoli’r mudiad #NoDAPL, goleuo’r cydgysylltiad rhwng y materion sy’n wynebu Gwlad India heddiw, ac edrych tuag at ddyfodol mwy sofran a chynaliadwy i’w pobl.
Tocynnau ar gael o wefan Galeri
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.