Gŵyl Arall

09 – 12 Gorffennaf 2026

Lansiad nofel Rhian Cadwaladr; Gwaddol

Gwener, Gorffennaf 5
7:00pm,
Am ddim

Gan fod Myfi ar drothwy ei phen blwydd yn 80 oed mae ei phlant, Delyth a Robin, yn penderfynu trefnu parti syrpréis iddi. Ond sut mae gwneud hynny heb ffraeo, gan fod gwraig Robin yn mynnu rhoi ei phig i mewn, a merch Delyth wastad yn tynnu’n groes? Nofel am deulu, am hiraeth ac am gariad.

Mae Rhian Cadwaladr yn awdur pedair nofel (Fi Sy’n Cael y Ci, Môr a Mynydd, Plethu a Dathlu!), cyfrolau i blant (Nain Nain Nain a chyfres Ynyr yr Ysbryd) a dau lyfr coginio (Casa Cadwaladr a Casa Dolig). Pan nad yw’n ysgrifennu, mi ddewch o hyd iddi yn y gegin neu’n crwydro’r bryniau efo’i chamera.

 

Digwyddiad AM DDIM ond llefydd cyfyngedig, felly cyntaf i’r felin.

 

 

Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gwerthfawrogwn gyfraniad.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.