
Gwrthbwynt: Mudo ar y meddwl. Marija Dejanovic & Lowri Hedd Vaughan
Beirdd o Croatia a Chymru sy’n cyfnewid ac yn archwilio safbwyntiau ar fudo. Ganed Marija Dejanović yn Bosnia a Herzegovina, fe’i magwyd yn Croatia, Sisak, ac ar hyn o bryd mae’n byw rhwng Zagreb, Croatia, a Larissa, Gwlad Groeg. Mae hi wedi cyhoeddi tair cyfrol o farddoniaeth arobryn ac mae’n sgriptiwr, beirniad a ffeminydd uchel ei pharch. Ar gyfer ei hymweliad â Gŵyl Arall, mae hi’n cydweithio â’r bardd lleol o Ynys Môn, Lowri Hedd Vaughan. Mae Lowri yn angerddol am ffyniant natur, archwilio cymhlethdod, dathlu amrywiaeth, gofalu, direidi a siarad. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi ym Mlodeugerdd Y Stamp, gan Pontio a’r cylchgrawn digidol Cwmpas – Celf ar y Cyd ac ym mis Awst, Lowri fydd bardd y mis Radio Cymru.
Caiff y sesiwn hon ei chyflwyno gan Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau ac fe’i chefnogir gan Gronfa Gwyliau Ewrop ar gyfer Artistiaid sy’n Dod i’r Amlwg.
Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.