Gweithdy Creu Prosiect CANFAS sesiwn 2
Am ddim
Gweithdy celf i gyfrannu at ddarn o gelf fydd yn ymddangos uwchben Stryd Llyn fel rhan o brosiect CANFAS.
Gweithdy creu y cerflun mawr fydd uwchben y stryd ydio a mae yn syml a hwyl a hydd yn debyg i wneud ‘rag rug’ anferth, yn clymu defnydd ymlaen.
Mae CANFAS yn un o brosiectau cymunedol Galeri, Caernarfon sy’n cael ei ariannu ac ei gefnogi gan gynllyn Trawsnewid Trefi Cyngor Gwynedd a Cysylltu a Ffynnu Cyngor y Celfyddydau Cymru.
Mae’n brosiect lle rydym yn cydweithio hefo’r gymuned i drawsnewid gofodau a strydoedd yn Nhre’ Caernarfon drwy ymgorffori gwaith celfyddydol a lliwgar yn y gofodau sy’n adlewyrchu ac yn seiliedig ar hanesion, straeon, a’r hyn sydd yn bwysig i drigolion y dref.
Mae’r sgyrsiau yma’n cael eu harwain gan griwiau o artistiaid ac unigolion creadigol lleol sy’n seilio’r gwaith gweledol ar yr hyn mae nhw’n ei glywed, ac yn ei ddehongli.
Mae un o’r gwiethiau celf yn ymddangos ar Stryd Llyn ac yn cael ei ddylunio a’i greu gan y dylunwyr, artistiaid a dwy ffrind Ann Catrin Evans a Lois Prys. Mae’r gwaith yn efelychu llif Afon Cadnant fuodd yn llifo gerllaw ers talwm gyda’r gwaith creu yn cael ei seilio ar arddulliau a thechnegau fel gwehyddu, plethu a clymu ac yn cydnabod y crefftwaith diwydianol oedd arfer a bod yn gysylltiedig a’r stryd fawr yno.
Cwbl AM DDIM
6 person ar y tro – archebu yn angenrheidiol
3 x sesiwn ar gael
1yh / 2yh / 3yh
Oedolion neu rhai ifanc oed 7 i fyny.
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gwerthfawrogwn gyfraniad.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.