Dawnsio a Hwyl Sesiwn 1
Sul, Gorffennaf 7
11:30am, Beics Antur, £3
Dewch i fwynhau sesiwn ddawns hip-hop a gemau hwylus gyda’r hyfforddwraig dawns Awen Pritchard o Ysgol Ddawns Anti Karen.
Mae Awen wedi bod yn hyfforddi dawns ers dros ddeng mlynedd bellach. Mae hi’n cael pleser o gyflwyno pobl newydd i’r byd dawns gyda’r gobaith y byddan nhw hefyd yn ei fwynhau cymaint a hi. Dewch am brynhawn llawn hwyl i ddathlu Gŵyl Arall.
Addas ar gyfer plant sydd heb unrhyw brofiad dawns blaenorol.
Gwisgwch ddillad addas a chyfforddus.
Sesiwn 1 – addas i blant 4 – 7 oed
Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.