Gŵyl Arall

10–13 Gorffennaf 2025

Darlith Hanes bore Dydd Sadwrn: ‘Pa lanast yw peilonau?’ Tir, iaith ac atomfeydd ym Mhen Llŷn c. 1936-1969.

Sadwrn, Gorffennaf 6
10:00am, , £6

Dr Mari Elin Wiliam a Dr Marc Collinson

‘Pa lanast yw peilonau?’ Tir, iaith ac atomfeydd ym Mhen Llŷn c. 1936-1969.

Bydd y ddarlith hon yn bwrw golwg ar arwyddocâd Pen Llŷn a’i thirlun i ddelfrydau o Gymreictod a gwledigrwydd yn ystod canol yr 20fed ganrif, gan ganolbwyntio’n arbennig ar y trafodaethau yn ystod y 1950au a’r 1960au ynghylch gosod atomfa niwclear ger Edern.  Bydd hyn yn cael ei gyferbynnu gydag enghreifftiau eraill cynhennus o ‘foderneiddio’ golygfeydd Pen Llŷn, megis yr Ysgol Fomio ac ymlediad twristiaeth yn y fro.  Holodd Baner ac Amserau Cymru yn 1957 ‘Pa lanast yw peilonau’, gyda’r cwestiwn yna’n greiddiol i drafodaethau ingol am enaid Pen Llŷn, diboblogi gwledig a’r frwydr am ‘fara’ neu ‘harddwch’.

Darlith Hanes bore Sadwrn yr ŵyl am awran gyda cyflwyniad i’r Gymdeithas Hanes gan Lynn Francis i ddilyn.

 

AM DDIM i aelodau Cymdeithas Hanes

 

Darlith yn y Gymraeg

Offer cyfieuthu ar gael

 

Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.