
Camu
Sadwrn, Gorffennaf 6
4:30pm, Gerddi’r Emporiwm, Palas Print, £6
Ffion Dafis fydd yn sgwrsio gyda Iola Ynyr am ei hunangofiant creadigol newydd, Camu. Cyfres o ysgrifau hunangofiannol sydd yn gwibio trwy atgofion ond yn rhoi lle i’r dychymyg blethu lliw hefyd. Mae yr ysgrifau yn cynnwys straeon o blentyndod Iola hyd at y presennol gan ddychmygu yr hyn sydd eto i ddod. Mae y gyfrol yn wynebu tristwch a heriau yn onest, ond hefo argyhoeddiad bod yna gariad yn llechu yn y tywyllwch.
Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.