Gŵyl Arall

5–9 Gorffennaf 2023

Myrddin Wyllt (The Real Merlin)

Iau, Gorffennaf 6
7:30pm, , £12

Bydd criw o gerddorion gorau’r Alban, Iwerddon a’r Hen Ogledd yn ymuno â’r ddau fardd cerddorol o Gymru, Gwyneth Glyn a Twm Morys, i gyflwyno sioe gerdd newydd mewn Gwyddeleg, Gaeleg a Chymraeg  i gyfeiliant fydd yn cynnwys offer taro a phibau Northumbria.  

Yn ymuno â Gwyneth a Twm bydd Maeve Mackinnon o’r Alban, Andy May o Northumbria a Lorcán Mac Mathúna o Iwerddon.
Bydd y gerddoriaeth newydd yn cael ei chreu mewn sesiynau ar-lein, ac yn tynnu ar hen destunau a chwedlau sy’n sôn am yr Hen Ogledd ac am y Dyn Gwyllt chwedlonol, Myrddin i’r Cymry, Lailoken i’r Albanwyr, Suibhne / Sweeny i’r Gwyddelod — a Merlin i weddill y byd!
Comisiynwyd y gwaith gan Ŵyl Knockengorroch, a bydd yn ddilyniant i’r sioe lwyddiannus Oran Bagraidh. Bydd Myrddin yn dod â Lorcán a Gwyneth yn ôl at ei gilydd, ac yn ychwanegu talentau eraill i fynd i’r afael â hen hanes barddol diwylliannau Prydain ac Iwerddon.
tocynnau ar gael drwy wefan Galeri yma

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.