Gŵyl Ddewi Arall

28 February–2 March 2025

Cyfres Rhyfeddodau Cymru – 5. Hiraeth Cymru am Hedd Wyn

Naomi Jones o Parc Cenedlaethol Eryri yn trafod un o’i hoff greiriau, darlun ‘ Hiraeth Cymru am Hedd Wyn’.

Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd ydi un o gartrefi mwyaf adnabyddus Cymru. Bu’n gyrchfan pererinion ers dros canrif a bellach, mae’r safle wedi’i atgyweirio’n ofalus er mwyn gwarchod ei amgylchedd hanesyddol a rhoi cyfle i ymwelwyr o bedwar ban byd ddysgu am y dreftadaeth arbennig. Mae’r Ysgwrn yn gartref i rai o greiriau mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys y Gadair Ddu ond mae’n gartref hefyd i nifer o drysorau cudd.

Yn y ffilm fer hon, mae Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol yn dadlennu stori un o’r creiriau hyn, darlun ‘Hiraeth Cymru am Hedd Wyn’.

Ar gyfer y newyddion diweddaraf o’r Ysgwrn, dilynwch ni ar Twitter, Instagram a Facebook: @yrysgwrn / Yr Ysgwrn: Cartref Hedd Wyn

Ar gael drwy ein sianel AM a Facebook

This event is free but we welcome donations.

Your events

Take a look at this year’s lineup and add the events you’d like to attend.