Gŵyl Ddewi Arall

28 February–2 March 2025

Cydgoginio gyda Nerys Howell

Friday, March 26
6:00pm,
Free

Sesiwn cyd-goginio ar lein gyda’r cogydd ac arbenigwr bwyd Nerys Howell. Bydd Nerys yn coginio pryd 2 gwrs o’i llyfr dwyieithog newydd Bwyd Cymru yn ei Dymor/Welsh Food by Season gan Y Lolfa.

Dros zoom, cewch eich tywys drwy’r ryseitiau gam wrth gam wrth i Nerys ddangos i chi’r ffordd orau o baratoi’r bwyd, o gysur a diogelwch eich cegin. Bydd digon o gyfle i holi cwestiynau yn ystod y sesiwn cyn i chi fynd ati i fwynhau a rhannu’r swper. Unwaith i chi gofrestru bydd rhestr o’r cynhwysion ac offer sydd ei angen yn cael ei anfon atoch.

Sesiwn wedi’u drefnu ar y cyd â Gwyl Fwyd Caernarfon

Sesiwn AM DDIM ond mae angen cofrestru am docyn yma gan fod llefydd yn gyfynedig

Rhestr cynhwysion ar gyfer sesiwn Cyd-gogino:
EOG – I ddau

2 x 125g ffiled eog, gyda’r croen
2 lwy fwrdd saws soi
1 llwy fwrdd mêl clir
2 lwy fwrdd sudd leim neu lemon
1 llwy fwrdd hadau sesame
1 llwy fwrdd olew had rêp
1⁄2 winwnsyn, wedi’i dorri’n haenau
1 ewin garlleg wedi’i falu
Darn 4cm sinsir ffres, wedi’i gratio’n fân
120g o wyrddni tymhorol fel bresych,bresych crych, ysbigoglys
2 lwy fwrdd saws soi
1 llwy de olew sesame

Cacen

150g menyn hallt
100g siocled tywyll da
180g siwgr
2 llwy fwrdd powdr coco
150ml gwirod hufen Merlyn
175g blawd plaen
2 llwy de powdr pobi
3 ŵy mawr wedi’u curo’n ysgafn

I’r ganache siocled

200g siocled tywyll
100g menyn heb halen
1 llwy fwrdd coffi cryf iawn

Neu dilynwch y ddolen yma i gael i rhestr siopa

This event is free but we welcome donations.

Your events

Take a look at this year’s lineup and add the events you’d like to attend.