
Who Cares About Wales? Will Hayward
Sadwrn, Gorffennaf 11
11:30am, Galeri, £8
Mae Will Hayward yn newyddiadurwr uchel ei barch, ac yn ddiweddar cyhoeddodd gyfrol sy’n mynd dan groen rhai o’r materion sydd o bwys i bobl Cymru. Addysg, iechyd, a’r amgylchedd i enwi ond tri. Yn ei gyfrol Who Cares About Wales? mae’n taro golwg ar sut mae Cymru’n cael ei ariannu a’i redeg, gan amlygu sut mae’r drefn bresennol yn ein gadael ni lawr ac yn gadael Cymru ar ôl. A’r her mwyaf ydi’r ffaith nad yw mwyafrif helaeth y bobl yn gwybod dim am y cam sy’n cael ei wneud â’r bobl ac â’r wlad.
Dewch i glywed mwy, wrth i Tudur Owen holi’r awdur.
Mae nifer cyfyngedig o docynnau i’r digwyddiad hwn ar gael o siop Palas Print neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.