
Y Dydd Olaf / The Last Day
Mae Y Dydd Olaf yn cael ei hystyried fel y ffuglen wyddonol orau erioed a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg. Fe’i cyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1976, ac ysbrydolodd sawl awdur ac artist ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys Gwenno a gyhoeddodd albwm o dan yr un teitl ym 2014. Bu allan o brint am flynyddoedd, a braf oedd gweld argraffiad newydd yn cael ei gyhoeddi yn 2021. Angharad Price fydd yn arwain dathliad o’r gyfrol ar achlysur cyhoeddi’r addasiad i’r Saesneg – The Last Day.
Cyfranwyr: Angharad Price, Llyr Titus, Robin Llwyd ab Owain, Emyr Humphreys ac eraill
Dewch i ddarganfod mwy am y gyfrol eiconig hon ac i fwynhau sgwrs a darlleniadau yn y ddwy iaith.
Mi fydd offer cyfieithu ar y pryd ar gael.
Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.