Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2024
Iau, Gorffennaf 4
6:00pm, Galeri, £10
Ymunwch â Llenyddiaeth Cymru am noson wefreiddiol i ddathlu llwyddiannau ein llenorion talentog Cymreig! Y digrifwr a’r cyflwynydd Tudur Owen fydd yn ein tywys drwy’r noson wrth i ni ddatgelu pwy sy’n dod i’r brig yn y categorïau Barddoniaeth, Ffuglen, Ffeithiol Greadigol a Phlant a Phobl Ifanc, yn ogystal â phwy fydd yn cipio gwobrau Barn y Bobl a theitl Llyfr y Flwyddyn 2024.
Llyfr y Flwyddyn yw ein gwobrau llenyddol cenedlaethol sy’n dathlu llwyddiannau llenorion Cymreig sy’n rhagori mewn ffurfiau llenyddol amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Cyflwynir y seremoni yn ddwyieithog ac fe fydd cyfieithydd ar y pryd Cymraeg – Saesneg ar gael. Cysylltwch â ni o flaen llaw am unrhyw anghenion hygyrchedd a dehonglydd BSL.
Ffôn: 01766 522 811 / 029 2047 2266
Ebost: post@llenyddiaethcymru.org
6:00 pm – Derbyniad
7:00 pm – Seremoni’n dechrau
£10.00 yn cynnwys un diod
(£7.50 consesiwn)
Nifer cyfyngedig ar gael.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.