
O Yn y Tŷ Hwn i This House
Sadwrn, Gorffennaf 6
12:00pm, Gerddi’r Emporiwm, Palas Print, £6
Ifor ap Glyn yn holi Sian Northey a Susan Walton am y nofel This House a’r profiad o gyfieithu ac o gael eich cyfieithu.
Yn gynharach eleni cyhoeddwyd This House, cyfieithiad gan Susan Walton o nofel Sian Northey, Yn y Tŷ Hwn. Mae Sian hefyd yn gyfieithydd ei hun, hi gyfieithodd Pigeon gan Alys Conran i’r Gymraeg.
Mi fydd hwn yn ddigwyddiad Cymraeg gyda darlleniadau Saesneg.
Mi fydd offer cyfieithu ar gael.
Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.