Gŵyl Arall

10–13 Gorffennaf 2025

David Elias Shaping the Wild: Wisdom from a Welsh Hill Farm

Sul, Gorffennaf 9
1:30pm, , £5

Bydd y cadwraethwr David Elias yn sgwrsio gydag Arwyn Owen, rheolwr fferm Hafod y Llan, Nant Gwynant, am yr hyn gall un fferm fynydd Gymreig ei ddweud wrthym am helpu byd natur i ffynnu.

Yn y cyfnod diweddar mae ffermio yn aml wedi cael ei ystyried yn niweidiol i natur a’r amgylchedd, gan achosi gwrthdaro rhwng y rhai sydd am warchod bywyd gwyllt a’r ffermwyr y mae eu bywoliaeth yn dibynnu ar y tir.

Mae cadwraethwyr a llywodraethau yn aml yn cynnig syniadau a pholisïau i alluogi ffermio a chadwraeth i gydweithio, ond yn aml, nid yw gweithredu’r syniadau yn dwyn ffrwyth fel a fwriadwyd.

Drwy ganolbwyntio ar brofiad un fferm, a sgyrsiau gydag amryw o ffermwyr, mae Elias yn dangos beth mae’r poisiau presennol wedi’u cyflawni – neu heb gyflawni – a phwysigrwydd deall beth a faint yn union mae’n gymryd i sichrau bod teuluoedd amaethyddol yn medru aros ar y tir tra’n helpu natur i ffynnu

Tocynnau arlein neu o Palas Print yn fuan

Tocynnau ddim ar werth arlein ar hyn o bryd. Holwch yn y swyddfa docynnau neu wrth y drws.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.