Gŵyl Ddewi Arall

28 Chwefror–2 Mawrth 2025

Arddangosfa Gwobr Gelf 2022-23 ‘Aildanio’

Gwener, Mawrth 3 – Sadwrn, Mawrth 4
6:00pm,
Am ddim

Bydd ‘Aildanio’, yr arddangosfa Gwobr Gelf Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC) yn teithio’n genedlaethol ar draws chwe oriel yng Nghymru.

Mae’r arddangosfa, a ariannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys 26 o weithiau celf gan artistiaid anabl wedi’i lleoli yng Nghymru, dewisir o dros 100 o gyflwyniadau i ymatebion creadigol i foment ‘aildanio’. Bydd yr arddangosfa yn teithio ar draws Cymru rhwng Tachwedd 2022 a Medi 2023. Dyma gyfle arbennig i brofi gwaith celf weledol flaengar a phryfoclyd gan rai o artistiaid gorau Cymru.

Mae CAC, sefydliad cenedlaethol celfyddydau anabledd yn dathlu 40 mlynedd o hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl a Byddar yn y celfyddydau.

Bydd capsiynau, BSLI a disgrifiadau sain ar gael.

 

Gallwch weld  ‘Aildanio’ yn y lleoliadau canlynol yn 2023:

  • Galeri, Caernarfon: 3 Mawrth – 8 Ebrill
  • Tŷ Pawb, Wrecsam: 21 Ebrill – 27 Mai
  • Oriel Davies, Drenewydd: 9 Mehefin – 9 Gorffennaf
  • Glyn Vivian, Abertawe: 22 Gorffennaf – 3 Medi

 

Am rhagor o wbodaeth:

ffion.evans@galericaernarfon.com

 

Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gwerthfawrogwn gyfraniad.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.