
Bocsys Celf Cei Llechi:Manon Awst
Am ddim
Bocsys Celf Cei Llechi: arddangosfa o waith gan Manon Awst yn Cei Llechi fel rhan o’r ŵyl.
Yn byw yng Nghaernarfon, mae Manon Awst yn creu cerfluniau a darnau celf safle-benodol wedi’u plethu â naratifau ecolegol a daearegol. Ym mocsys celf Cei Llechi, mae casgliad o’i cherfluniau bychain i’w gweld yn cynnwys cerrig lleol, drychau, rhwydi pysgota wedi’u hailgylchu a theganau traeth. Maent yn rhan o gyfres diweddar gan yr artist sy’n ymdrin yn chwareus gydag effaith twristiaeth ar dirweddau arfordirol.
@manon_awst
Living in Caernarfon, Manon Awst creates sculptures and site-specific artworks woven with ecological and geological narratives. In the Cei Llechi art boxes, she presents a collection of small sculptures integrating local stones, mirrors, recycled fishing nets and beach inflatables. They are part of a recent series by the artist, playfully exploring the impact of tourism on coastal landscapes.
@manon_awst
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gwerthfawrogwn gyfraniad.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.