Gŵyl Ddewi Arall

28 Chwefror–2 Mawrth 2025

Sgwrs Trysorau Coll Caradog Prichard

Mercher, Awst 26
7:00pm,
Am ddim

Trafod pwysigrwydd y llythyrau dadlennol newydd ar fywyd a llenyddiaeth Caradog Prichard

Trafodaeth am bwysigrwydd deunydd o gasgliad newydd o bapurau Caradog Prichard, sydd erbyn hyn wedi’i gyflwyno i’r Llyfrgell Genedlaethol. Mae’r casgliad yn cynnwys gohebiaeth rhwng Caradog a nifer o bobl eraill gan gynnwys aelodau o’i deulu, cyfeillion a chydnabod, yn eu plith rai o enwogion Cymru a chyn-gariadon. Mae’r gyfrol hefyd yn cynnwys cofnodion dyddiadur Caradog rhwng 1963 a 1980. Ceir hefyd lythyrau gan deulu Caradog ato gan gynnwys llythyrau dirdynnol gan ei fam a anfonwyd o seilam Dinbych. Mae’r casgliad yn rhoi golwg cwbl newydd ar fywyd y bardd a’r awdur adnabyddus.

Sgwrs yn seiliedig ar y gyfrol newydd Trysorau Coll Caradog Prichard gan J. Elwyn Hughes.

CLICIWCH YMA I WYLIO AR EIN SIANEL AM

Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gwerthfawrogwn gyfraniad.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.