Cyfres Rhyfeddodau Cymru – 4. Papur Wal yr Ysgwrn – Naomi Jones, Parc Cenedlaethol Eryri
Am ddim
Yr Ysgwrn, cartref Hedd Wyn yn Nhrawsfynydd ydi un o gartrefi mwyaf adnabyddus Cymru. Bu’n gyrchfan pererinion ers dros canrif a bellach, mae’r safle wedi’i atgyweirio’n ofalus er mwyn gwarchod ei amgylchedd hanesyddol a rhoi cyfle i ymwelwyr o bedwar ban byd ddysgu am y dreftadaeth arbennig. Mae’r Ysgwrn yn gartref i rai o greiriau mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys y Gadair Ddu ond mae’n gartref hefyd i nifer o drysorau cudd. Yn y ffilm fer hon, mae Naomi Jones, Pennaeth Treftadaeth Ddiwylliannol Awdurdod Parc Cenedlaethol yn dadlennu stori un o’r creiriau hyn, y Ffosil Papur Wal.
Ar gyfer y newyddion diweddaraf o’r Ysgwrn, dilynwch ni ar Twitter, Instagram a Facebook: @yrysgwrn / Yr Ysgwrn: Cartref Hedd Wyn
Ar gael ar ein sianel/gwefan AM
Ac ar ein tudalen YouTube
Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gwerthfawrogwn gyfraniad.
Eich digwyddiadau
Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.