Gŵyl Ddewi Arall

28 Chwefror–2 Mawrth 2025

Codi Pais Codi Pontydd

Mercher, Gorffennaf 8
7:00pm,
Am ddim

Ffilm fer am waith ar y cyd/gweithdai â Pontio/Manon Awst/Jasmine a Hannah Cash

Dyma brosiect cydweithredol, cyffrous sy’n cyfuno celf, dawns, barddoniaeth a cherddoriaeth gan griw o ferched ifanc Codi Pais (Lowri Ifor, Casi Wyn a Manon Dafydd) a’r artistiaid Hannah a Jasmine Cash. Bydd cyfle i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai creadigol yn arwain at arddangosfa, cylchgrawn a gwahanol berfformiadau ym mannau cyhoeddus Pontio. Oherwydd Covid-19 mae Pontio ar gau, ond, rydym yn parhau gyda’r gweithdai ar-lein a bydd y gweithiau sy’n cael eu creu yn ystod rheiny yn arwain tuag at rifyn newydd sbon o Codi Pais fydd yn cael ei chyhoeddi cyn diwedd yr haf. Gobeithio, pan fydd Pontio yn ail-agor ei drysau byddwn yn gallu arddangos yr holl waith bryd hynny!

 

Cliciwch yma i wylio ar ein sianel AM

 

Am rhagor o wybodaeth ewch i wefan Pontio

Mae’r digwyddiad hwn am ddim ond gwerthfawrogwn gyfraniad.

Eich digwyddiadau

Porwch drwy arlwy’r ŵyl ac ychwanegwch ddigwyddiadau yr hoffech chi fynychu.